RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 3GWYBODAETH , AROLYGIADAU AC YMCHWILIADAU

35Pwerau arolygydd i gyf-weld â phersonau a chynnal archwiliad ohonynt

(1)

Os yw arolygydd yn meddwl ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion cynnal arolygiad F1neu ymchwiliad, caiff yr arolygydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson gael ei gyf-weld F2...gan yr arolygydd.

F3(1A)

Caniateir i arolygydd ei gwneud yn ofynnol i gyfweliad o dan is-adran (1) gael ei gynnal yn breifat.

(2)

Ond F4o ran arolygydd—

(a)

ni chaiff gyf-weld â pherson sy’n dod o fewn is-adran (3) heb gydsyniad y person, a

(b)

ni chaiff gyf-weld â pherson (“P”) at ddibenion holi a yw P wedi cyflawni trosedd oni bai—

(i)

bod P wedi cael ei hysbysu am ddiben y cyfweliad;

(ii)

y rhoddir y cyfle i P i gael cynrychiolaeth gyfreithiol.

(3)

Mae’r personau a ganlyn yn dod o fewn yr is-adran hon—

(a)

person y mae’r darparwr gwasanaeth yn darparu (neu wedi darparu) gofal a chymorth iddo;

(b)

unigolyn a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y person;

(c)

perthynas i’r person;

(d)

gofalwr y person;

(e)

rhoddai atwrneiaeth arhosol dros y person.

(4)

Caiff arolygydd F5, at ddibenion cynnal arolygiad, gynnal archwiliad preifat o berson y mae’r darparwr gwasanaeth yn darparu (neu wedi darparu) gofal a chymorth iddo—

(a)

os yw’r arolygydd yn ymarferydd meddygol cofrestredig neu’n nyrs gofrestredig,

(b)

os yw’r arolygydd yn meddwl bod yr archwiliad yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion asesu effaith unrhyw ofal a chymorth o’r fath ar lesiant y person, ac

(c)

os yw’r person yn cydsynio i’r archwiliad.

(5)

At ddibenion is-adrannau (1) a (4), mae cyfweliad neu archwiliad i’w drin fel pe bai wedi ei gynnal yn breifat er gwaethaf presenoldeb trydydd parti—

(a)

os yw’r person y cyfwelir ag ef neu y cynhelir archwiliad ohono yn dymuno i’r trydydd parti fod yn bresennol ac nad yw’r arolygydd yn gwrthwynebu, neu

(b)

os yw’r arolygydd yn dymuno i’r trydydd parti fod yn bresennol a bod y person y cyfwelir ag ef neu y cynhelir archwiliad ohono yn cydsynio.

(6)

Pan fo arolygydd yn cynnal cyfweliad neu archwiliad o dan yr adran hon, rhaid i’r arolygydd, os gofynnir iddo wneud hynny gan—

(a)

y person y cyfwelir ag ef neu y cynhelir archwiliad ohono, neu

(b)

unigolyn sy’n dod gyda’r person hwnnw,

gyflwyno dogfen sy’n dangos awdurdodiad yr arolygydd o dan adran 33 ac, yn achos archwiliad, ddogfen sy’n dangos bod yr arolygydd yn ymarferydd meddygol cofrestredig neu’n nyrs gofrestredig.

(7)

Yn yr adran hon—

mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr ystyr a roddir i “parental responsibility” gan adran 3 o Ddeddf Plant 1989 (p.41);

mae i “gofalwr” (“carer”) yr ystyr a roddir gan adran 3 o Ddeddf 2014;

ystyr “perthynas” (“relative”), mewn perthynas â pherson, yw rhiant, tad-cu/taid, mam-gu/nain, plentyn, ŵyr, wyres, brawd, hanner brawd, chwaer, hanner chwaer, ewythr, modryb, nai neu nith y person hwnnw (gan gynnwys unrhyw berson sydd yn y berthynas honno neu sydd wedi bod yn y berthynas honno yn rhinwedd priodas neu bartneriaeth sifil neu berthynas deuluol barhaus);

ystyr “plentyn” (“child”) yw person sydd o dan 18 oed;

mae i “rhoddai atwrneiaeth arhosol” yr un ystyr â “donee of a lasting power of attorney” yn Rhan 1 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p.9).