Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

35Pwerau arolygydd i gyf-weld â phersonau a chynnal archwiliad ohonyntLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Os yw arolygydd yn meddwl ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion cynnal arolygiad, caiff yr arolygydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson gael ei gyf-weld yn breifat gan yr arolygydd.

(2)Ond ni chaiff arolygydd gyf-weld yn breifat â pherson sy’n dod o fewn is-adran (3) heb gydsyniad y person.

(3)Mae’r personau a ganlyn yn dod o fewn yr is-adran hon—

(a)person y mae’r darparwr gwasanaeth yn darparu (neu wedi darparu) gofal a chymorth iddo;

(b)unigolyn a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y person;

(c)perthynas i’r person;

(d)gofalwr y person;

(e)rhoddai atwrneiaeth arhosol dros y person.

(4)Caiff arolygydd gynnal archwiliad preifat o berson y mae’r darparwr gwasanaeth yn darparu (neu wedi darparu) gofal a chymorth iddo—

(a)os yw’r arolygydd yn ymarferydd meddygol cofrestredig neu’n nyrs gofrestredig,

(b)os yw’r arolygydd yn meddwl bod yr archwiliad yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion asesu effaith unrhyw ofal a chymorth o’r fath ar lesiant y person, ac

(c)os yw’r person yn cydsynio i’r archwiliad.

(5)At ddibenion is-adrannau (1) a (4), mae cyfweliad neu archwiliad i’w drin fel pe bai wedi ei gynnal yn breifat er gwaethaf presenoldeb trydydd parti—

(a)os yw’r person y cyfwelir ag ef neu y cynhelir archwiliad ohono yn dymuno i’r trydydd parti fod yn bresennol ac nad yw’r arolygydd yn gwrthwynebu, neu

(b)os yw’r arolygydd yn dymuno i’r trydydd parti fod yn bresennol a bod y person y cyfwelir ag ef neu y cynhelir archwiliad ohono yn cydsynio.

(6)Pan fo arolygydd yn cynnal cyfweliad neu archwiliad o dan yr adran hon, rhaid i’r arolygydd, os gofynnir iddo wneud hynny gan—

(a)y person y cyfwelir ag ef neu y cynhelir archwiliad ohono, neu

(b)unigolyn sy’n dod gyda’r person hwnnw,

gyflwyno dogfen sy’n dangos awdurdodiad yr arolygydd o dan adran 33 ac, yn achos archwiliad, ddogfen sy’n dangos bod yr arolygydd yn ymarferydd meddygol cofrestredig neu’n nyrs gofrestredig.

(7)Yn yr adran hon—

  • mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr ystyr a roddir i “parental responsibility” gan adran 3 o Ddeddf Plant 1989 (p.41);

  • mae i “gofalwr” (“carer”) yr ystyr a roddir gan adran 3 o Ddeddf 2014;

  • ystyr “perthynas” (“relative”), mewn perthynas â pherson, yw rhiant, tad-cu/taid, mam-gu/nain, plentyn, ŵyr, wyres, brawd, hanner brawd, chwaer, hanner chwaer, ewythr, modryb, nai neu nith y person hwnnw (gan gynnwys unrhyw berson sydd yn y berthynas honno neu sydd wedi bod yn y berthynas honno yn rhinwedd priodas neu bartneriaeth sifil neu berthynas deuluol barhaus);

  • ystyr “plentyn” (“child”) yw person sydd o dan 18 oed;

  • mae i “rhoddai atwrneiaeth arhosol” yr un ystyr â “donee of a lasting power of attorney” yn Rhan 1 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p.9).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 35 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(e)