RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 3GWYBODAETH , AROLYGIADAU AC YMCHWILIADAU
33Arolygiadau F1, ymchwiliadau ac arolygwyr
(1)
Yn y Rhan hon mae cyfeiriad at “arolygiad” yn gyfeiriad at arolygiad—
(a)
o safon unrhyw ofal a chymorth a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth wrth ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig, wedi ei mesur mewn perthynas ag unrhyw ofynion a osodir gan reoliadau o dan adran 27(1) o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i’w darparu;
(b)
F2o’r ffordd y mae gwasanaethau rheoleiddiedig a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth yn cael eu trefnu, eu rheoli neu eu cydgysylltu.
F3(1A)
Yn y Rhan hon mae cyfeiriad at “ymchwiliad yn gyfeiriad at ymchwiliad ynghylch a yw person yn cyflawni neu wedi cyflawni trosedd o dan y Rhan hon.
(2)
Dim ond unigolyn sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “arolygydd”) a gaiff gynnal arolygiad F4neu ymchwiliad.
(3)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch y cymwysterau a’r amodau eraill sydd i’w bodloni gan unigolyn y caniateir iddo fod yn arolygydd.
(4)
Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi cod ymarfer ynghylch y modd y mae arolygiadau i’w cynnal (gan gynnwys amlder arolygiadau).
(5)
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r cod a rhaid iddynt gyhoeddi cod diwygiedig.
(6)
Rhaid i arolygydd roi sylw i’r cod wrth gynnal arolygiad.