33Arolygiadau [F1, ymchwiliadau] ac arolygwyrLL+C
(1)Yn y Rhan hon mae cyfeiriad at “arolygiad” yn gyfeiriad at arolygiad—
(a)o safon unrhyw ofal a chymorth a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth wrth ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig, wedi ei mesur mewn perthynas ag unrhyw ofynion a osodir gan reoliadau o dan adran 27(1) o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i’w darparu;
(b)[F2o’r ffordd y mae gwasanaethau rheoleiddiedig a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth yn cael eu trefnu, eu rheoli neu eu cydgysylltu].
[F3(1A)Yn y Rhan hon mae cyfeiriad at “ymchwiliad yn gyfeiriad at ymchwiliad ynghylch a yw person yn cyflawni neu wedi cyflawni trosedd o dan y Rhan hon.]
(2)Dim ond unigolyn sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “arolygydd”) a gaiff gynnal arolygiad [F4neu ymchwiliad].
(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch y cymwysterau a’r amodau eraill sydd i’w bodloni gan unigolyn y caniateir iddo fod yn arolygydd.
(4)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi cod ymarfer ynghylch y modd y mae arolygiadau i’w cynnal (gan gynnwys amlder arolygiadau).
(5)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r cod a rhaid iddynt gyhoeddi cod diwygiedig.
(6)Rhaid i arolygydd roi sylw i’r cod wrth gynnal arolygiad.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn mhennawd a. 33 wedi eu mewnosod (1.1.2026) gan Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (asc 1), a. 29(2), Atod. 1 para. 7(6); O.S. 2025/1257, ergl. 3(1)(c)
F2Geiriau yn a. 33(1)(b) wedi eu hamnewid (1.4.2026) gan Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (asc 1), aau. 17(4)(a), 29(2); O.S. 2025/1257, ergl. 3(2)(f)
F3A. 33(1A) wedi ei fewnosod (1.4.2026) gan Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (asc 1), aau. 17(4)(b), 29(2); O.S. 2025/1257, ergl. 3(2)(f)
F4Geiriau yn a. 33(2) wedi eu mewnosod (1.4.2026) gan Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (asc 1), aau. 17(4)(c), 29(2); O.S. 2025/1257, ergl. 3(2)(f)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 33 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(e)
