RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 3GWYBODAETH , AROLYGIADAU AC YMCHWILIADAU

32Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu

(1)

F1Mae is-adrannau (1A) ac (1B) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried y gall fod gan berson perthnasol wybodaeth sy’n ymwneud â gwasanaeth rheoleiddiedig y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus ei chael at ddibenion arfer eu swyddogaethau o dan Bennod 2 a’r Bennod hon o’r Rhan hon neu o dan adrannau 38 i 40.

F2(1A)

Pan fo’r is-adran hon yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad i berson perthnasol sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw—

(a)

cyflwyno unrhyw ddogfennau—

(i)

a bennir neu a ddisgrifir yn yr hysbysiad, neu sy’n dod o fewn categori o ddogfen a bennir neu a ddisgrifir yn yr hysbysiad, a

(ii)

sydd ym meddiant y person neu o dan reolaeth y person, a

(b)

cyflwyno’r dogfennau mewn modd a bennir yn yr hysbysiad.

(1B)

Pan fo’r is-adran hon yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad i berson perthnasol sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw—

(a)

ateb unrhyw gwestiwn—

(i)

sydd wedi ei ofyn yn yr hysbysiad, a

(ii)

y mae’r ateb iddo yn hysbys i’r person, a

(b)

ateb mewn modd a bennir yn yr hysbysiad.

(2)

Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth F3

(a)

os yw datgelu’r wybodaeth honno wedi ei wahardd drwy unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall;

(b)

pe bai gan y person hawlogaeth i wrthod datgelu’r wybodaeth mewn achos yn yr Uchel Lys ar sail braint broffesiynol gyfreithiol.

(3)

At ddibenion is-adran (1), ystyr “person perthnasol” yw—

(a)

darparwr gwasanaeth,

(b)

unigolyn cyfrifol,

(c)

person a gyflogir gan ddarparwr gwasanaeth neu sydd fel arall yn gweithio i ddarparwr gwasanaeth, a

(d)

unrhyw berson sydd wedi dal unrhyw un neu ragor o’r swyddi hynny.

(4)

Mae’r pŵer i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu o dan is-adran (1) yn cynnwys—

(a)

pŵer i’w gwneud yn ofynnol i gopïau gael eu darparu o unrhyw ddogfennau neu gofnodion (gan gynnwys cofnodion meddygol a chofnodion personol eraill), a

(b)

pŵer i’w gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth gael ei darparu ar ffurf ddarllenadwy.

F4(5)

Pan fo Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth gan eu bod yn amau bod trosedd yn cael ei chyflawni neu fod trosedd wedi ei chyflawni—

(a)

ni chânt ei gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth gael ei darparu ond os oes ganddynt sail resymol dros amau hynny;

(b)

rhaid iddynt hysbysu’r person, yn ysgrifenedig, at ba ddiben y maent yn ei gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth gael ei darparu.

(6)

Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at “darparwr gwasanaeth” yn cynnwys person y mae Gweinidogion Cymru yn amau’n rhesymol—

(a)

ei fod yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig mewn man nad yw’r person hwnnw wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef o dan adran 7, neu

(b)

ei fod wedi darparu gwasanaeth rheoleiddiedig mewn man nad oedd y person hwnnw wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef o dan adran 7.