RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 3GWYBODAETH AC AROLYGIADAU
32Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i berson perthnasol ddarparu unrhyw wybodaeth iddynt sy’n ymwneud â gwasanaeth rheoleiddiedig y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus ei chael at ddibenion arfer eu swyddogaethau o dan Bennod 2 a’r Bennod hon o’r Rhan hon neu o dan adrannau 38 i 40.
(2)
Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth os yw datgelu’r wybodaeth honno wedi ei wahardd drwy unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.
(3)
At ddibenion is-adran (1), ystyr “person perthnasol” yw—
(a)
darparwr gwasanaeth,
(b)
unigolyn cyfrifol,
(c)
person a gyflogir gan ddarparwr gwasanaeth neu sydd fel arall yn gweithio i ddarparwr gwasanaeth, a
(d)
unrhyw berson sydd wedi dal unrhyw un neu ragor o’r swyddi hynny.
(4)
Mae’r pŵer i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu o dan is-adran (1) yn cynnwys—
(a)
pŵer i’w gwneud yn ofynnol i gopïau gael eu darparu o unrhyw ddogfennau neu gofnodion (gan gynnwys cofnodion meddygol a chofnodion personol eraill), a
(b)
pŵer i’w gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth gael ei darparu ar ffurf ddarllenadwy.