RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 2COFRESTRU ETC. DARPARWYR GWASANAETHAU
Rheoliadau a chanllawiau
30Rheoliadau ynghylch darparwyr gwasanaethau sydd wedi eu diddymu etc.
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth—
(a)
sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson a benodir eu hysbysu am y penodiad hwnnw;
(b)
i’r Rhan hon fod yn gymwys gydag addasiadau rhagnodedig i ddarparwyr gwasanaethau y mae person o’r fath wedi ei benodi mewn perthynas â hwy.
(2)
Yn is-adran (1) ystyr “person a benodir” yw person a benodir—
(a)
yn dderbynnydd neu’n dderbynnydd gweinyddol o eiddo darparwr gwasanaeth sy’n gorff corfforaethol neu’n bartneriaeth;
(b)
yn ddiddymwr, yn ddiddymwr dros dro neu’n weinyddwr i ddarparwr gwasanaeth sy’n gorff corfforaethol neu’n bartneriaeth;
(c)
yn ymddiriedolwr mewn methdaliad i ddarparwr gwasanaeth sy’n unigolyn neu’n bartneriaeth.