RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 1CYFLWYNIAD

F12AYstyr “gwasanaeth plant o dan gyfyngiad

(1)

At ddibenion y Rhan hon, mae’r gwasanaethau rheoleiddiedig a ganlyn yn “gwasanaeth plant o dan gyfyngiad”—

(a)

gwasanaeth cartref gofal‍ i’r graddau y mae’r gwasanaeth yn wasanaeth cartref plant;

(b)

gwasanaeth maethu;

(c)

gwasanaeth llety diogel.‍

(2)

At ddibenion is-adran (1), mae “gwasanaeth cartref plant” yn wasanaeth cartref gofal a ddarperir mewn un neu ragor o fannau y mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf i blant ynddo neu ynddynt.‍

(3)

Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch ystyr gwasanaeth plant o dan gyfyngiad.