RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 2COFRESTRU ETC. DARPARWYR GWASANAETHAU

Rheoliadau a chanllawiau

29Canllawiau ynghylch rheoliadau o dan adrannau 27 a 28

(1)

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau ynghylch—

(a)

sut y caiff darparwyr gwasanaethau gydymffurfio â gofynion a osodir drwy reoliadau o dan adran 27(1) (gan gynnwys sut y caiff darparwyr gyrraedd unrhyw safonau ar gyfer darparu gwasanaeth rheoleiddiedig a bennir drwy reoliadau o’r fath);

(b)

sut y caiff unigolion cyfrifol gydymffurfio â gofynion a osodir drwy reoliadau o dan adran 28(1).

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio canllawiau a gyhoeddir o dan is-adran (1) a rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau diwygiedig.

(3)

Rhaid i ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol roi sylw i ganllawiau a gyhoeddir o dan yr adran hon.