C4C3C2C1C5RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL

Annotations:

C4C3C2C1C5PENNOD 2COFRESTRU ETC. DARPARWYR GWASANAETHAU

Rheoliadau a chanllawiau

I1I227Rheoliadau ynghylch gwasanaethau rheoleiddiedig

1

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau osod gofynion ar ddarparwr gwasanaeth mewn perthynas â gwasanaeth rheoleiddiedig.

2

Rhaid i ofynion a osodir gan reoliadau o dan is-adran (1) gynnwys gofynion o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i’w darparu gan ddarparwr gwasanaeth.

3

Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth wneud rheoliadau sy’n gosod gofynion o’r math a grybwyllir yn is-adran (2), roi sylw—

a

i bwysigrwydd llesiant unrhyw unigolion y bydd gofal a chymorth yn cael eu darparu iddynt, a

b

i’r safonau ansawdd sydd wedi eu cynnwys mewn unrhyw god a ddyroddir o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (codau ar gyfer helpu i sicrhau canlyniadau a bennir mewn datganiadau llesiant).

4

Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru—

a

ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy, a

b

cyhoeddi datganiad ynghylch yr ymgynghoriad.

5

Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o ddatganiad a gyhoeddir o dan is-adran (4)(b) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

6

Ond nid yw’r gofyniad i ymgynghori a chyhoeddi datganiad yn gymwys i reoliadau—

a

sy’n diwygio rheoliadau eraill a wneir o dan yr adran hon, a

b

nad ydynt, ym marn Gweinidogion Cymru, yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau sydd i’w diwygio.