RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 2COFRESTRU ETC. DARPARWYR GWASANAETHAU
Rheoliadau a chanllawiau
27Rheoliadau ynghylch gwasanaethau rheoleiddiedig
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau osod gofynion ar ddarparwr gwasanaeth mewn perthynas â gwasanaeth rheoleiddiedig.
(2)
Rhaid i ofynion a osodir gan reoliadau o dan is-adran (1) gynnwys gofynion o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i’w darparu gan ddarparwr gwasanaeth.
(3)
Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth wneud rheoliadau sy’n gosod gofynion o’r math a grybwyllir yn is-adran (2), roi sylw—
(a)
i bwysigrwydd llesiant unrhyw unigolion y bydd gofal a chymorth yn cael eu darparu iddynt, a
(b)
i’r safonau ansawdd sydd wedi eu cynnwys mewn unrhyw god a ddyroddir o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (codau ar gyfer helpu i sicrhau canlyniadau a bennir mewn datganiadau llesiant).
(4)
Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)
ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy, a
(b)
cyhoeddi datganiad ynghylch yr ymgynghoriad.
(5)
Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o ddatganiad a gyhoeddir o dan is-adran (4)(b) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(6)
Ond nid yw’r gofyniad i ymgynghori a chyhoeddi datganiad yn gymwys i reoliadau—
(a)
sy’n diwygio rheoliadau eraill a wneir o dan yr adran hon, a
(b)
nad ydynt, ym marn Gweinidogion Cymru, yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau sydd i’w diwygio.