RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 2COFRESTRU ETC. DARPARWYR GWASANAETHAU
Gweithredu ar frys
25Amrywio cofrestriad ar frys: amodau eraill
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn meddwl oni bai eu bod yn gweithredu o dan yr adran hon—
(a)
bod perygl, neu y gall fod perygl, i—
(i)
bywyd person, neu
(ii)
iechyd corfforol neu iechyd meddwl person, neu
(b)
bod perygl, neu y gall fod perygl, bod person yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod.
(2)
Caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad o benderfyniad i ddarparwr gwasanaeth—
(a)
sy’n amrywio amod a osodwyd o dan adran 7(3)(b), 12(2), 13(1) neu a osodwyd o’r blaen o dan yr adran hon, neu
(b)
sy’n gosod amod y gellid bod wedi ei osod o dan unrhyw un neu ragor o’r adrannau hynny.
(3)
Mae hysbysiad o benderfyniad a roddir o dan is-adran (2) yn cymryd effaith ar y dyddiad y’i rhoddir.
(4)
Rhaid i hysbysiad o benderfyniad o dan is-adran (2)—
(a)
datgan ei fod wedi ei roi o dan yr adran hon,
(b)
pennu’r amod sydd i’w amrywio neu ei osod,
(c)
rhoi rhesymau dros osod neu amrywio’r amod,
(d)
esbonio’r hawl i gyflwyno sylwadau a roddir gan is-adran (5), ac
(e)
esbonio’r hawl i apelio a roddir gan adran 26.
(5)
Caiff Gweinidogion Cymru amrywio neu ddileu amod a amrywir neu a osodir o dan is-adran (2) drwy roi hysbysiad pellach o benderfyniad i’r darparwr gwasanaeth, ond cyn gwneud hynny rhaid iddynt roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynwyd iddynt gan y darparwr gwasanaeth ynghylch y hysbysiad a roddwyd o dan is-adran (2).
(6)
Mae hysbysiad o benderfyniad a roddir o dan is-adran (5) yn cymryd effaith ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.
(7)
Rhaid i hysbysiad o benderfyniad a roddir o dan is-adran (5)—
(a)
datgan ei fod wedi ei roi o dan yr adran hon,
(b)
pennu’r amod sydd i’w amrywio neu ei ddileu,
(c)
rhoi rhesymau dros y penderfyniad, a
(d)
esbonio’r hawl i apelio a roddir gan adran 26.