RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 2COFRESTRU ETC. DARPARWYR GWASANAETHAU

Gweithredu ar frys

24Canslo neu amrywio ar frys: hysbysiadau ac apelau

(1)

Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i orchymyn gael ei wneud o dan adran 23 rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i’r darparwr gwasanaeth y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef sy’n esbonio—

(a)

telerau’r gorchymyn, a

(b)

yr hawl i apelio a roddir gan is-adran (2).

(2)

Heb fod yn hwyrach na 14 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad a roddir o dan is-adran (1), caiff y darparwr gwasanaeth apelio i’r tribiwnlys yn erbyn gwneud y gorchymyn.

(3)

Ond caiff y tribiwnlys ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl i’r cyfnod hwnnw o 14 o ddiwrnodau ddod i ben os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros y methiant i apelio cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben (a thros unrhyw oedi wrth wneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol).

(4)

Ar apêl o dan is-adran (2), caiff y tribiwnlys—

(a)

cadarnhau’r gorchymyn;

(b)

dirymu’r gorchymyn;

(c)

gwneud unrhyw orchymyn arall (gan gynnwys gorchymyn interim) sy’n briodol ym marn y tribiwnlys.

(5)

Caiff gorchymyn interim gan y tribiwnlys, ymhlith pethau eraill, atal dros dro effaith gorchymyn a wneir o dan adran 23 am gyfnod a bennir gan y tribiwnlys.