RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 2COFRESTRU ETC. DARPARWYR GWASANAETHAU
Unigolion cyfrifol
I121Unigolion cyfrifol
1
Yn y Rhan hon, ystyr “unigolyn cyfrifol” yw unigolyn—
a
sy’n gymwys i fod yn unigolyn cyfrifol o dan is-adran (2),
b
y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei fod yn berson addas a phriodol i fod yn unigolyn cyfrifol (gweler adran 9), ac
c
sydd wedi ei ddynodi gan ddarparwr gwasanaeth mewn cysylltiad â man y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef ac a bennir felly yng nghofrestriad y darparwr gwasanaeth.
2
I fod yn gymwys i fod yn unigolyn cyfrifol rhaid i’r unigolyn—
a
pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn, fod y darparwr gwasanaeth;
b
pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, fod yn un o’r partneriaid;
c
pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gorff corfforaethol ac eithrio awdurdod lleol—
i
bod yn gyfarwyddwr neu’n swyddog tebyg yn y corff,
ii
yn achos cwmni cyfyngedig cyhoeddus, fod yn gyfarwyddwr neu’n ysgrifennydd yn y cwmni, neu
iii
yn achos corff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, fod yn aelod o’r corff;
d
pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gorff anghorfforedig, fod yn aelod o’r corff;
e
pan fo’r darparwr gwasanaeth yn awdurdod lleol, fod yn swyddog yn yr awdurdod lleol a ddynodir gan gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod.
3
At ddibenion is-adran (2)(e), dim ond os yw cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol yn meddwl bod gan swyddog y profiad a’r arbenigedd angenrheidiol i fod yn unigolyn cyfrifol y caiff ddynodi’r swyddog hwnnw.
4
Caniateir i’r un unigolyn cyfrifol gael ei ddynodi mewn cysylltiad â mwy nag un man y darperir gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef.
5
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau—
a
pennu amgylchiadau pan gaiff Gweinidogion Cymru (yn lle darparwr gwasanaeth) ddynodi unigolyn i fod yn unigolyn cyfrifol er nad yw gofynion is-adran (2) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r unigolyn, a
b
gwneud darpariaeth i’r Rhan hon fod yn gymwys gydag addasiadau rhagnodedig i unigolyn cyfrifol o’r fath.