RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 2COFRESTRU ETC. DARPARWYR GWASANAETHAU
Gofynion hysbysiadau
19Hysbysiad o benderfyniad yn dilyn hysbysiad o gynnig
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi hysbysiad o gynnig.
(2)
Wrth wneud penderfyniad am y cynnig, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir iddynt (pa un ai gan y darparwr gwasanaeth neu gan unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl bod ganddo fuddiant).
(3)
Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod darparwr gwasanaeth wedi cymryd unrhyw gamau a bennir o dan adran 18(3) o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad o gynnig, rhaid iddynt beidio â chymryd y camau a gynigir yn yr hysbysiad.
(4)
Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad o benderfyniad i’r darparwr gwasanaeth heb fod yn hwyrach nag 28 o ddiwrnodau ar ôl i’r diweddaraf o’r canlynol ddod i ben—
(a)
y terfyn amser a bennir o dan is-adran (2)(c) o adran 18, neu
(b)
unrhyw derfyn amser a bennir o dan is-adran (3) o’r adran honno.
(5)
Er gwaethaf is-adran (4), mae hysbysiad o benderfyniad a roddir ar ôl y cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn yr is-adran honno yn ddilys os yw’r hysbysiad—
(a)
yn rhoi’r rhesymau dros yr oedi cyn gwneud y penderfyniad, a
(b)
yn cael ei roi heb fod yn hwyrach na 56 o ddiwrnodau ar ôl i’r diweddaraf o’r terfynau amser a grybwyllir ym mharagraffau (a) a (b) o is-adran (4) ddod i ben.
(6)
Rhaid i hysbysiad o benderfyniad a roddir o dan is-adran (4)—
(a)
datgan a yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad o gynnig,
(b)
rhoi rhesymau dros y penderfyniad, ac
(c)
os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad o gynnig, esbonio’r hawl i apelio a roddir gan adran 26.
(7)
Mae penderfyniad a ddatgenir mewn hysbysiad a roddir o dan is-adran (4) i gymryd camau a bennir mewn hysbysiad o gynnig yn cymryd effaith—
(a)
os na wneir apêl yn erbyn y penderfyniad, ar y diwrnod ar ôl diwrnod olaf y cyfnod o 28 o ddiwrnodau y cyfeirir ato yn adran 26(2), neu
(b)
os gwneir apêl, ar y diwrnod a bennir gan y tribiwnlys wrth ddyfarnu ar yr apêl neu ar y diwrnod y tynnir yr apêl yn ôl.
(8)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio—
(a)
y cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-adran (4);
(b)
y cyfnod o 56 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-adran (5)(b).