189Dehongli cyffredinolLL+C
Yn y Ddeddf hon—
ystyr “a ragnodir” a “rhagnodedig” (“prescribed”) yw wedi ei ragnodi drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ebrill ac sy’n dod i ben ar 31 Mawrth;
ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2006;
ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4);
mae i “GCC” (“SCW”) yr ystyr a roddir gan adran 67;
mae i “llesiant” (“well-being”) yr un ystyr ag yn adran 2 o Ddeddf 2014;
ystyr “rhybuddiad” (“caution”), mewn perthynas â throsedd, yw—
(a)rhybuddiad amodol a roddir o dan adran 22 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p.44) (rhybuddiadau amodol ar gyfer oedolion) neu o dan adran 66A o Ddeddf Trosedd ac Anrhefn 1998 (p.37) (rhybuddiadau amodol ar gyfer plant a phobl ifanc);
(b)unrhyw rybuddiad arall a roddir i berson yng Nghymru a Lloegr mewn cysylltiad â throsedd a gyfaddefwyd gan y person hwnnw ar yr adeg y rhoddir y rhybuddiad;
(c)unrhyw beth sy’n cyfateb i rybuddiad sy’n dod o fewn paragraff (a) neu (b) (sut bynnag y’i disgrifir)—
(i)a roddir i berson mewn cysylltiad â thramgwydd a gyflawnwyd y tu allan i Gymru a Lloegr a fyddai’n drosedd pe bai wedi ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr, a
(ii)nad yw’n fesur y caniateir ei roi yn lle erlyniad (o fewn ystyr “alternative to prosecution” yn adran 8AA o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (p.53));
ystyr “y tribiwnlys” (“the tribunal”) yw’r tribiwnlys Haen Gyntaf.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 189 mewn grym ar 19.1.2016, gweler a. 188(2)