(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth ganlyniadol, gysylltiedig, drosiannol, ddarfodol neu arbed sy’n briodol yn eu barn hwy at ddibenion y Ddeddf hon neu mewn cysylltiad â hi.
(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, dirymu neu ddiddymu unrhyw ddeddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol neu sydd wedi ei wneud odani.
(3)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan yr adran hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.
(4)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon sy’n diwygio neu’n diddymu deddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron [F1Senedd Cymru] a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.
(5)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon nad yw is-adran (4) yn gymwys iddo yn ddarostyngedig i ddiddymiad yn unol â phenderfyniad gan [F2Senedd Cymru].
(6)Yn yr adran hon, ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw—
(a)Deddf Seneddol;
(b)Deddf neu Fesur gan [F3Senedd Cymru] (gan gynnwys y Ddeddf hon).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 186(4) wedi eu hamnewid (25.3.2025) gan Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (asc 1), a. 29(1)(a)(ii), Atod. 1 para. 7(15)(e)
F2Geiriau yn a. 186(5) wedi eu hamnewid (25.3.2025) gan Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (asc 1), a. 29(1)(a)(ii), Atod. 1 para. 7(15)(e)
F3Geiriau yn a. 186(6) wedi eu hamnewid (25.3.2025) gan Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (asc 1), a. 29(1)(a)(ii), Atod. 1 para. 7(15)(e)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 186 mewn grym ar 19.1.2016, gweler a. 188(2)