182Rhannu gwybodaeth er mwyn diogelu llesiantLL+C
(1)Rhaid i gorff rheoleiddiol ddatgelu gwybodaeth y mae wedi ei chael wrth arfer ei swyddogaethau perthnasol i unrhyw berson arall os yw’n meddwl bod datgeliad o’r fath yn angenrheidiol neu’n hwylus er mwyn diogelu llesiant unigolyn yng Nghymru.
(2)Ond ni chaniateir i wybodaeth gael ei datgelu o dan is-adran (1) os yw datgelu’r wybodaeth wedi ei wahardd drwy unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.
(3)Yn achos gwybodaeth sy’n golygu bod modd adnabod unigolyn, ni chaniateir iddi gael ei datgelu mewn modd sy’n golygu y gellir adnabod yr unigolyn ond os yw’r corff rheoleiddiol yn meddwl bod adnabod yr unigolyn yn angenrheidiol er mwyn diogelu llesiant unrhyw unigolyn.
(4)At ddibenion is-adran (3), mae gwybodaeth i’w thrin fel pe bai ar ffurf sy’n golygu bod modd adnabod unigolyn os gellir adnabod yr unigolyn o gyfuniad—
(a)o’r wybodaeth, a
(b)o wybodaeth arall a ddatgelir gan y corff rheoleiddiol i’r person arall y cyfeirir ato yn is-adran (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 182 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 182 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(h) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)