181Rhannu gwybodaethLL+C
(1)Caiff corff rheoleiddiol ddarparu gwybodaeth i gorff rheoleiddiol arall neu awdurdod perthnasol yn unol â threfniant a wneir o dan y Rhan hon i gydweithredu, i arfer swyddogaethau ar y cyd neu i ddirprwyo swyddogaethau.
(2)Ni chaniateir i wybodaeth gael ei darparu o dan is-adran (1) i gorff rheoleiddiol neu awdurdod perthnasol os yw’r person sydd â’r wybodaeth wedi ei wahardd rhag ei darparu drwy unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.
(3)Yn achos gwybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn, ni chaniateir i’r wybodaeth gael ei darparu i gorff rheoleiddiol neu awdurdod perthnasol oni bai—
(a)bod yr wybodaeth wedi ei darparu ar ffurf sy’n golygu nad oes modd adnabod yr unigolyn, neu
(b)bod y person sydd â’r wybodaeth yn cael cydsyniad yr unigolyn i’w darparu.
(4)At ddibenion is-adran (3)(a), mae gwybodaeth i’w thrin fel pe bai ar ffurf sy’n golygu bod modd adnabod unigolyn os gellir adnabod yr unigolyn o gyfuniad—
(a)o’r wybodaeth, a
(b)o wybodaeth arall a ddarperir i gorff rheoleiddiol neu awdurdod perthnasol gan yr un corff rheoleiddiol.
(5)Ni chaniateir i wybodaeth a ddarperir yn unol â threfniant o dan y Rhan hon gael ei defnyddio gan y person y darperir yr wybodaeth iddo ond at ddibenion cydweithredu, arfer swyddogaethau ar y cyd neu arfer swyddogaethau dirprwyedig yn unol â’r trefniant.
(6)Nid yw’r adran hon yn effeithio ar ddyletswydd y cyrff rheoleiddiol i ddatgelu gwybodaeth at ddibenion diogelu llesiant unigolyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 181 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 181 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(h) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)