Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/762), rhlau., 57(3)
C2Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/165), rhlau. 1(2), 58(3)
C3Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/163), rhlau. 1(2), 67(3)
C4Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/169), rhlau. 1(2), 71
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu—
(a)caniatáu cais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth yn ddarostyngedig i amod na chytunwyd arno’n ysgrifenedig â’r ymgeisydd,
(b)gwrthod cais i gofrestru neu i amrywio cofrestriad fel darparwr gwasanaeth, neu
(c)amrywio cofrestriad darparwr gwasanaeth ac eithrio—
(i) yn unol â chais am amrywiad a wneir o dan adran 11, neu
(ii)o dan adran 13(3) neu (4), 23(1)(b) neu 25(2)(a).
(2)Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad o’r cynnig i’r darparwr gwasanaeth—
(a)sy’n pennu’r camau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cymryd,
(b)sy’n rhoi rhesymau dros y cynnig, ac
(c)sy’n pennu terfyn amser o ddim llai nag 28 o ddiwrnodau o’r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad y caiff y darparwr gwasanaeth gyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru ynddo.
(3)Caiff hysbysiad o gynnig bennu’r camau a fyddai’n arwain, pe baent yn cael eu cymryd gan ddarparwr o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad, at Weinidogion Cymru yn peidio â chymryd y camau y maent yn eu cynnig yn yr hysbysiad.
(4)Yn achos gwrthod cais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth mae cyfeiriadau yn yr adran hon ac adran 19 at “darparwr gwasanaeth” i’w trin fel cyfeiriadau at y person a wnaeth gais i gael ei gofrestru fel darparwr gwasanaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 18 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(d)