RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 2COFRESTRU ETC. DARPARWYR GWASANAETHAU
Gofynion hysbysiadau
18Hysbysiad o gynnig
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu—
(a)
caniatáu cais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth yn ddarostyngedig i amod na chytunwyd arno’n ysgrifenedig â’r ymgeisydd,
(b)
gwrthod cais i gofrestru neu i amrywio cofrestriad fel darparwr gwasanaeth, neu
(c)
amrywio cofrestriad darparwr gwasanaeth ac eithrio—
(i)
yn unol â chais am amrywiad a wneir o dan adran 11, neu
(ii)
o dan adran 13(3) neu (4), 23(1)(b) neu 25(2)(a).
(2)
Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad o’r cynnig i’r darparwr gwasanaeth—
(a)
sy’n pennu’r camau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cymryd,
(b)
sy’n rhoi rhesymau dros y cynnig, ac
(c)
sy’n pennu terfyn amser o ddim llai nag 28 o ddiwrnodau o’r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad y caiff y darparwr gwasanaeth gyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru ynddo.
(3)
Caiff hysbysiad o gynnig bennu’r camau a fyddai’n arwain, pe baent yn cael eu cymryd gan ddarparwr o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad, at Weinidogion Cymru yn peidio â chymryd y camau y maent yn eu cynnig yn yr hysbysiad.
(4)
Yn achos gwrthod cais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth mae cyfeiriadau yn yr adran hon ac adran 19 at “darparwr gwasanaeth” i’w trin fel cyfeiriadau at y person a wnaeth gais i gael ei gofrestru fel darparwr gwasanaeth.