RHAN 9CYDWEITHREDU A CHYDWEITHIO GAN Y CYRFF RHEOLEIDDIOL ETC.

179Arfer swyddogaethau ar y cyd

(1)

Caiff un corff rheoleiddiol (“A”) drefnu gyda’r corff rheoleiddiol arall (“B”) i A a B weithredu gyda’i gilydd wrth arfer ar y cyd un neu ragor o swyddogaethau perthnasol A gydag un neu ragor o swyddogaethau perthnasol B.

(2)

Ni chaiff corff rheoleiddiol ymrwymo i drefniant o dan yr adran hon ond os yw’n meddwl y bydd y trefniant—

(a)

yn cael effaith gadarnhaol ar y modd y mae’r corff yn arfer y swyddogaeth, neu

(b)

yn helpu’r corff i gyflawni ei amcanion cyffredinol.

(3)

Caiff trefniadau o dan yr adran hon—

(a)

cynnwys sefydlu cyd-bwyllgor er mwyn arfer y cyd-swyddogaethau perthnasol ar ran y cyrff rheoleiddiol, a

(b)

bod ar unrhyw delerau ac amodau eraill (gan gynnwys telerau o ran tâl) y cytunir arnynt rhwng y cyrff rheoleiddiol.