xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 9LL+CCYDWEITHREDU A CHYDWEITHIO GAN Y CYRFF RHEOLEIDDIOL ETC.

177Awdurdodau perthnasolLL+C

(1)Yn y Rhan hon yr awdurdodau perthnasol yw—

(a)Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru,

(b)Cyngor y Gweithlu Addysg,

(c)pob awdurdod lleol,

(d)pob Bwrdd Iechyd Lleol,

(e)Ymddiriedolaeth GIG,

(f)awdurdod tân ac achub Cymreig,

(g)Cyngor Iechyd Cymuned, ac

(h)unrhyw berson arall a ragnodir.

(2)Yn is-adran (1)—

(a)ystyr “Ymddiriedolaeth GIG” yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd wedi ei chyfansoddi o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42);

(b)ystyr “awdurdod tân ac achub Cymreig” yw awdurdod yng Nghymru sydd wedi ei gyfansoddi drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21) neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;

(c)ysytr “Cyngor Iechyd Cymuned” yw Cyngor Iechyd Cymuned sy’n parhau neu a sefydlwyd o dan adran 182 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 177 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 177 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(h) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)