RHAN 9CYDWEITHREDU A CHYDWEITHIO GAN Y CYRFF RHEOLEIDDIOL ETC.

176Y cyrff rheoleiddiol

Yn y Rhan hon—

(a)

y cyrff rheoleiddiol yw—

(i)

Gweinidogion Cymru, a

(ii)

GCC;

(b)

ystyr “swyddogaethau perthnasol” yw—

(i)

mewn perthynas â Gweinidogion Cymru, eu swyddogaethau rheoleiddiol;

(ii)

mewn perthynas â GCC, ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon;

(c)

ystyr “amcanion cyffredinol” yw—

(i)

mewn perthynas â Gweinidogion Cymru, yr amcanion a grybwyllir yn adran 4;

(ii)

mewn perthynas â GCC, yr amcan a grybwyllir yn adran 68(1).