RHAN 8GOFAL CYMDEITHASOL CYMRU: DYLETSWYDD I SEFYDLU PANELI ETC.
175Achosion gerbron paneli
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth sy’n briodol yn eu barn hwy ar gyfer achosion ac mewn cysylltiad ag achosion sydd wedi eu dwyn o dan y Ddeddf hon gerbron—
(a)
paneli apelau cofrestru;
(b)
paneli gorchmynion interim;
(c)
paneli addasrwydd i ymarfer.
(2)
Caiff y rheoliadau awdurdodi GCC neu ei gwneud yn ofynnol i GCC wneud rheolau ynghylch unrhyw fater sy’n ymwneud ag achosion o’r fath.
(3)
Ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon ei gwneud yn ofynnol i berson roi tystiolaeth neu gyflwyno dogfen neu dystiolaeth berthnasol arall na allai’r person gael ei orfodi i’w rhoi neu ei chyflwyno mewn achosion sifil mewn llys yng Nghymru a Lloegr.
(4)
Safon y prawf sy’n gymwys i’r achosion a grybwyllir yn is-adran (1) yw’r un sy’n gymwys i achosion sifil.