xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth sy’n briodol yn eu barn hwy ar gyfer achosion ac mewn cysylltiad ag achosion sydd wedi eu dwyn o dan y Ddeddf hon gerbron—
(a)paneli apelau cofrestru;
(b)paneli gorchmynion interim;
(c)paneli addasrwydd i ymarfer.
(2)Caiff y rheoliadau awdurdodi GCC neu ei gwneud yn ofynnol i GCC wneud rheolau ynghylch unrhyw fater sy’n ymwneud ag achosion o’r fath.
(3)Ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon ei gwneud yn ofynnol i berson roi tystiolaeth neu gyflwyno dogfen neu dystiolaeth berthnasol arall na allai’r person gael ei orfodi i’w rhoi neu ei chyflwyno mewn achosion sifil mewn llys yng Nghymru a Lloegr.
(4)Safon y prawf sy’n gymwys i’r achosion a grybwyllir yn is-adran (1) yw’r un sy’n gymwys i achosion sifil.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 175 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 175 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(g) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)