Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

173Safonau ymddygiadLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i GCC benderfynu ar y safonau ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth berson sy’n cyflawni gweithgaredd rheoleiddiedig.

(2)O ran GCC—

(a)rhaid iddo gadw’r safonau o dan adolygiad, a

(b)caiff newid neu ddisodli’r safonau.

(3)Rhaid i GCC gyhoeddi—

(a)y safonau, a

(b)os caiff y safonau eu newid neu eu disodli, y safonau sydd wedi eu newid neu’r safonau newydd.

(4)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn i’w dilyn wrth benderfynu ar y safonau.

(5)Caiff rheolau a wneir o dan is-adran (4), yn benodol—

(a)gwneud darpariaeth ynghylch y meini prawf y penderfynir ar y safonau drwy gyfeirio atynt;

(b)gwneud darpariaeth ynghylch y trefniadau ar gyfer cadw’r safonau o dan adolygiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 173 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 173 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(f) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)