xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 7LL+CGORCHMYNION SY’N GWAHARDD GWAITH MEWN GOFAL CYMDEITHASOL: PERSONAU ANGHOFRESTREDIG

Darpariaeth atodolLL+C

172Rhestr o bersonau sydd wedi eu gwaharddLL+C

(1)Rhaid i GCC sefydlu a chynnal rhestr o bersonau y mae gorchymyn gwahardd neu orchymyn gwahardd interim yn cael effaith mewn cysylltiad â hwy.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)ffurf a chynnwys y rhestr;

(b)pa un a yw’r rhestr, neu wybodaeth benodedig o’r rhestr, i’w chyhoeddi ai peidio;

(c)rhoi’r rhestr ar gael—

(i)i bersonau o ddisgrifiad penodedig, neu

(ii)er mwyn i’r cyhoedd edrych arni.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 172 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 172 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(f) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)