Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

171Troseddau LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’n drosedd i berson fethu â chydymffurfio â—

(a)gorchymyn gwahardd, neu

(b)gorchymyn gwahardd interim.

(2)Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau greu troseddau diannod sy’n ymwneud â chyflogi neu benodi person i wneud unrhyw beth y gwaherddir y person rhag ei wneud drwy—

(a)gorchymyn gwahardd, neu

(b)gorchymyn gwahardd interim.

(4)Ni chaiff rheoliadau sy’n creu trosedd ddarparu i’r drosedd fod yn drosedd y gellir ei chosbi ac eithrio drwy ddirwy (pa un a yw’r ddirwy yn ddirwy ddiderfyn neu’n ddirwy nad yw’n fwy na lefel benodedig ar y raddfa safonol).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 171 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 171 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(f) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)