RHAN 7GORCHMYNION SY’N GWAHARDD GWAITH MEWN GOFAL CYMDEITHASOL: PERSONAU ANGHOFRESTREDIG

170Apelau

(1)

Rhaid i reoliadau o dan adran 165 ddarparu ar gyfer hawl i apelio i’r tribiwnlys yn erbyn⁠—

(a)

gorchymyn gwahardd;

(b)

penderfyniad i beidio â neilltuo gorchymyn gwahardd mewn adolygiad;

(c)

penderfyniad i beidio â neilltuo gorchymyn gwahardd interim mewn adolygiad.

(2)

Caiff rheoliadau o dan yr adran hon gynnwys darpariaeth o ran—

(a)

y cyfnod y caniateir i apêl gael ei gwneud ynddo;

(b)

ar ba seiliau y caniateir i apêl gael ei gwneud;

(c)

y weithdrefn ar gyfer gwneud apêl;

(d)

pwerau’r tribiwnlys ar apêl.