Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

170ApelauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i reoliadau o dan adran 165 ddarparu ar gyfer hawl i apelio i’r tribiwnlys yn erbyn⁠—

(a)gorchymyn gwahardd;

(b)penderfyniad i beidio â neilltuo gorchymyn gwahardd mewn adolygiad;

(c)penderfyniad i beidio â neilltuo gorchymyn gwahardd interim mewn adolygiad.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon gynnwys darpariaeth o ran—

(a)y cyfnod y caniateir i apêl gael ei gwneud ynddo;

(b)ar ba seiliau y caniateir i apêl gael ei gwneud;

(c)y weithdrefn ar gyfer gwneud apêl;

(d)pwerau’r tribiwnlys ar apêl.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 170 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 170 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(f) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)