RHAN 7GORCHMYNION SY’N GWAHARDD GWAITH MEWN GOFAL CYMDEITHASOL: PERSONAU ANGHOFRESTREDIG

169Gorchmynion gwahardd interim: adolygu

(1)

Rhaid i banel addasrwydd i ymarfer adolygu gorchymyn gwahardd interim cyn gynted ag y bo’n ymarferol—

(a)

os yw’r person y gwneir y gorchymyn mewn cysylltiad ag ef yn gofyn am adolygiad, a

(b)

os gofynnir am yr adolygiad heb fod yn gynharach na 3 mis ar ôl y dyddiad y gwnaed y gorchymyn.

(2)

Os adolygir gorchymyn gwahardd interim o dan is-adran (1), rhaid i banel addasrwydd i ymarfer adolygu’r gorchymyn o fewn pob cyfnod dilynol o 3 mis sy’n dechrau â dyddiad yr adolygiad o dan yr is-adran honno.

(3)

Caiff panel addasrwydd i ymarfer adolygu gorchymyn gwahardd interim ar unrhyw adeg os daw tystiolaeth newydd ar gael sy’n berthnasol i’r achos.

(4)

Yn dilyn adolygiad, caiff y panel neilltuo gorchymyn gwahardd interim.