xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—
(a)gwneud darpariaeth o ran yr amser pan fydd gorchymyn gwahardd yn cymryd effaith;
(b)gwneud darpariaeth ynghylch yr adolygiad o orchymyn gwahardd gan banel addasrwydd i ymarfer, gan gynnwys—
(i)yr amgylchiadau y caniateir i orchymyn gwahardd gael ei adolygu odanynt,
(ii)y weithdrefn ar gyfer gwneud cais am adolygiad,
(iii)amseriad adolygiad, a
(iv)pwerau’r panel mewn adolygiad (gan gynnwys pŵer i neilltuo’r gorchymyn gwahardd);
(c)ei gwneud yn ofynnol i GCC gyhoeddi gwybodaeth ragnodedig ynghylch dyfarniadau a wneir gan baneli addasrwydd i ymarfer mewn cysylltiad â gorchmynion gwahardd a gorchmynion gwahardd interim;
(d)ei gwneud yn ofynnol i GCC roi gwybodaeth ragnodedig o’r fath ar gael—
(i)i bersonau o ddisgrifiad penodedig, neu
(ii)er mwyn i’r cyhoedd edrych arni.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 168 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 168 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(f) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)