166Amodau ar gyfer gwneud gorchymyn gwaharddLL+C
(1)Rhaid i reoliadau a wneir o dan adran 165 ragnodi’r amgylchiadau pan gaiff panel addasrwydd i ymarfer wneud gorchymyn gwahardd.
(2)Caiff y rheoliadau, yn benodol, ddarparu na chaiff panel wneud gorchymyn gwahardd mewn cysylltiad â pherson oni bai bod un neu ragor o’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni—
(a)bod y person wedi ei gollfarnu o drosedd o fath rhagnodedig;
(b)bod y person wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd o fath rhagnodedig;
(c)bod y person wedi ei gynnwys ar restr wahardd;
(d)bod corff perthnasol wedi gwneud dyfarniad i’r perwyl bod amhariad ar addasrwydd y person i ymarfer;
(e)bod y panel wedi ei fodloni bod y person wedi methu â chyrraedd unrhyw safon ymddygiad a bennir o dan adran 173;
(f)bod y panel yn meddwl bod gwneud y gorchymyn yn angenrheidiol er mwyn amddiffyn y cyhoedd, neu fod hynny fel arall er budd y cyhoedd.
(3)Yn is-adran (2) mae i “corff perthnasol” a “rhestr wahardd” yr un ystyr ag yn adran 117 (seiliau amhariad ar addasrwydd i ymarfer).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 166 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 166 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(f) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)