Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

165Dynodi gweithgaredd rheoleiddiedigLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)dynodi gweithgaredd y mae is-adran (2) yn gymwys iddo fel gweithgaredd rheoleiddiedig at ddibenion y Rhan hon, a

(b)awdurdodi i orchmynion gwahardd gael eu gwneud mewn cysylltiad â’r gweithgaredd rheoleiddiedig.

(2)Y gweithgareddau y mae’r is-adran hon yn gymwys iddynt yw—

(a)ymarfer fel gweithiwr gofal cymdeithasol o ddisgrifiad rhagnodedig;

(b)cyflawni gweithgaredd rhagnodedig fel gweithiwr gofal cymdeithasol;

(c)y defnydd gan unigolyn o deitl rhagnodedig sy’n ymwneud â gweithgaredd o fewn paragraff (a) neu (b).

(3)Yn is-adran (2) nid yw’r cyfeiriadau at “gweithiwr gofal cymdeithasol” yn cynnwys cyfeiriad at—

(a)gweithiwr cymdeithasol, neu

(b)gweithiwr gofal cymdeithasol o ddisgrifiad a bennir am y tro drwy reoliadau o dan adran 80(1)(b) (disgrifiadau o weithiwr gofal cymdeithasol y mae GCC yn cadw rhan ychwanegol o’r gofrestr mewn cysylltiad â hwy).

(4)Yn y Rhan hon ystyr “gorchymyn gwahardd” yw gorchymyn a wneir gan panel addasrwydd i ymarfer sy’n gwahardd person rhag cyflawni gweithgaredd rheoleiddiedig.

(5)Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

(6)Ond nid yw’r gofyniad i ymgynghori yn gymwys i reoliadau—

(a)sy’n diwygio rheoliadau eraill a wneir o dan yr adran hon, a

(b)nad ydynt, ym marn Gweinidogion Cymru, yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau sydd i’w diwygio.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 165 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 165 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(f) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)