164Ystyr “person cofrestredig” yn Rhan 6LL+C
Yn y Rhan hon, ystyr “person cofrestredig” yw person sydd wedi ei gofrestru yn y rhan gweithwyr cymdeithasol, mewn rhan ychwanegol neu yn y [F1rhan gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad neu'r rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad] o’r gofrestr; ac mae’n cynnwys person—
(a)y byddai ei gofrestriad wedi darfod o dan adran 87(1) oni bai am y ffaith bod is-adran (2) o’r adran honno yn gymwys i’r person;
(b)y mae gorchymyn atal dros dro yn cael effaith mewn cysylltiad ag ef o dan adran 138(8), 152(8)(d), 153(9)(c), 154(6), (7) neu (10) neu 155(9);
(c)y mae gorchymyn atal dros dro interim yn cael effaith mewn cysylltiad ag ef o dan adran 144 neu 147.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 164 wedi eu hamnewid (3.4.2017) gan The European Qualifications (Health and Social Care Professions) Regulations 2016 (O.S. 2016/1030), rhlau. 1, 143(2) (ynghyd â rhl. 155)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 164 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 164 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)