RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER
PENNOD 7CYFFREDINOL AC ATODOL
162Canllawiau ynghylch addasrwydd i ymarfer
(1)
Caiff GCC gyhoeddi canllawiau ynghylch ffactorau a all, yn ei farn ef, ei gwneud yn briodol, neu’n amhriodol, i banel addasrwydd i ymarfer neu banel gorchmynion interim wneud neu gadarnhau gorchymyn interim o dan Bennod 4.
(2)
Rhaid i banel addasrwydd i ymarfer neu banel gorchmynion interim roi sylw i ganllawiau a gyhoeddir o dan is-adran (1) wrth arfer unrhyw swyddogaeth o dan Bennod 4.
(3)
Caiff GCC gyhoeddi canllawiau ynghylch ffactorau a all, yn ei farn ef, ei gwneud yn briodol, neu’n amhriodol, i banel addasrwydd i ymarfer wneud unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
(a)
cyrraedd gwarediad cydsyniol o fater o dan adran 135 neu 136;
(b)
rhoi cyngor neu rybudd o dan adran 137;
(c)
gwaredu unrhyw fater mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a grybwyllir yn adran 138(3) i (9);
(d)
gwneud gorchymyn effaith ar unwaith o dan adran 140;
(e)
gwaredu mater yn sgil adolygiad mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a grybwyllir yn adrannau 152 i 155.
(4)
Caiff GCC gyhoeddi canllawiau ynghylch—
(a)
ymgymeriadau penodol, neu fathau penodol o ymgymeriadau, y caniateir i banel addasrwydd i ymarfer gytuno arnynt, a pha bryd y gall fod yn briodol neu’n amhriodol cytuno ar yr ymgymeriadau hynny;
(b)
amodau penodol, neu fathau penodol o amodau, y caniateir eu cynnwys mewn gorchymyn cofrestru amodol, a pha bryd y gall fod yn briodol neu’n amhriodol cynnwys yr amodau hynny;
(c)
y cyfnod o amser y dylai unrhyw un neu ragor o’r canlynol gael effaith ar ei gyfer—
(i)
ymgymeriadau;
(ii)
amodau a gynhwysir mewn gorchymyn cofrestru amodol;
(iii)
gorchymyn atal dros dro.
(5)
Caiff GCC gyhoeddi canllawiau ynghylch ffactorau y mae’n meddwl y dylid eu hystyried wrth ddyfarnu pa un a oes amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer ar sail iechyd corfforol neu iechyd meddwl andwyol ai peidio.
(6)
Rhaid i banel addasrwydd i ymarfer roi sylw i ganllawiau a gyhoeddir o dan is-adrannau (3) i (5) wrth arfer unrhyw swyddogaeth o dan y Rhan hon.