161Cyhoeddi penderfyniadau addasrwydd i ymarferLL+C
(1)Rhaid i GCC gyhoeddi penderfyniad panel addasrwydd i ymarfer i wneud gwarediad cydsyniol o fater o dan adran 135 neu 136.
(2)Rhaid i GCC gyhoeddi penderfyniad panel addasrwydd i ymarfer i waredu achos o dan adran 137 (gwarediad yn dilyn canfyddiad o ddim amhariad ar addasrwydd i ymarfer).
(3)Rhaid i GCC gyhoeddi penderfyniad panel addasrwydd i ymarfer i waredu achos o dan adran 138 (gwarediad yn dilyn canfyddiad o amhariad ar addasrwydd i ymarfer).
(4)Rhaid i GCC gyhoeddi penderfyniad panel addasrwydd i ymarfer i waredu achosion adolygu mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a grybwyllir yn adrannau 152 i 155.
(5)Rhaid i GCC gyhoeddi penderfyniad panel addasrwydd i ymarfer i wneud gorchymyn effaith ar unwaith o dan adran 140.
(6)Rhaid i GCC gyhoeddi’r penderfyniadau a ganlyn gan banel gorchmynion interim neu banel addasrwydd i ymarfer—
(a)penderfyniad i wneud gorchymyn interim o dan adran 144;
(b)penderfyniad i gadarnhau neu amrywio gorchymyn interim yn sgil adolygiad o dan adran 147.
(7)Rhaid i GCC gyhoeddi unrhyw benderfyniad y mae’n ei wneud—
(a)i ddyroddi rhybudd o dan adran 126(3)(c) (pwerau GCC pan na fo’r achos yn cael ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer),
(b)i gytuno ar ymgymeriadau o dan adran 126(3)(d), neu
(c)i ganiatáu cais i ddileu cofnod o’r gofrestr drwy gytundeb o dan adran 126(3)(e).
(8)Mae is-adrannau (1) i (7) yn ddarostyngedig i is-adrannau (9) a (10).
(9)Nid yw’n ofynnol i GCC gyhoeddi unrhyw benderfyniad gan banel addasrwydd i ymarfer i beidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn cysylltiad â pherson cofrestredig o dan adran 137(2), 138(5), 152(8)(a), 153(9)(a), 154(8)(a) neu 155(10)(a); ond caiff wneud hynny.
(10)Rhaid i GCC beidio â chyhoeddi unrhyw wybodaeth am iechyd corfforol neu iechyd meddwl person.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 161 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 161 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)