16Hysbysiadau gwellaLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu—
(a)canslo cofrestriad darparwr gwasanaeth o dan [F1adran 15(1)(c), (d), (e) neu (f)], neu
(b)amrywio cofrestriad darparwr o dan adran [F2adran 13(3)(b) neu (4)(b), (ba) neu (c)].
(2)Cyn canslo neu amrywio’r cofrestriad rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad gwella i’r darparwr gwasanaeth.
(3)Rhaid i hysbysiad gwella a roddir o dan is-adran (2) bennu—
(a)ar ba sail y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu canslo neu amrywio’r cofrestriad ac, yn achos amrywiad, y modd y gwneir yr amrywiad,
(b)y camau y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl y mae rhaid i’r darparwr eu cymryd, neu’r wybodaeth y mae rhaid i’r darparwr ei darparu, er mwyn eu bodloni nad yw canslo neu amrywio ar y sail honno yn briodol, ac
(c)terfyn amser—
(i)ar gyfer cymryd y camau neu ddarparu’r wybodaeth, a
(ii)i’r darparwr gwasanaeth gyflwyno sylwadau.
(4)Caiff y darparwr gwasanaeth gyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru cyn i’r terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad gwella ddod i ben a rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r sylwadau hynny wrth benderfynu beth i’w wneud o dan adran 17.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 16(1)(a) wedi eu hamnewid (25.3.2025) gan Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (asc 1), a. 29(1)(a)(ii), Atod. 1 para. 7(3)(a)
F2Geiriau yn a. 16(1)(b) wedi eu hamnewid (25.3.2025) gan Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (asc 1), a. 29(1)(a)(ii), Atod. 1 para. 7(3)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 16 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(d)