RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 2COFRESTRU ETC. DARPARWYR GWASANAETHAU
Gofynion hysbysiadau
16Hysbysiadau gwella
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu—
(a)
canslo cofrestriad darparwr gwasanaeth o dan adran 15, neu
(b)
amrywio cofrestriad darparwr o dan adran 13(3) neu (4).
(2)
Cyn canslo neu amrywio’r cofrestriad rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad gwella i’r darparwr gwasanaeth.
(3)
Rhaid i hysbysiad gwella a roddir o dan is-adran (2) bennu—
(a)
ar ba sail y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu canslo neu amrywio’r cofrestriad ac, yn achos amrywiad, y modd y gwneir yr amrywiad,
(b)
y camau y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl y mae rhaid i’r darparwr eu cymryd, neu’r wybodaeth y mae rhaid i’r darparwr ei darparu, er mwyn eu bodloni nad yw canslo neu amrywio ar y sail honno yn briodol, ac
(c)
terfyn amser—
(i)
ar gyfer cymryd y camau neu ddarparu’r wybodaeth, a
(ii)
i’r darparwr gwasanaeth gyflwyno sylwadau.
(4)
Caiff y darparwr gwasanaeth gyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru cyn i’r terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad gwella ddod i ben a rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r sylwadau hynny wrth benderfynu beth i’w wneud o dan adran 17.