RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER
PENNOD 5ACHOSION ADOLYGU
155Adolygu gorchmynion atal dros dro amhenodol
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer wedi gwneud gorchymyn atal dros dro amhenodol.
(2)
Rhaid i banel addasrwydd i ymarfer adolygu’r gorchymyn atal dros dro amhenodol ar gais y person cofrestredig.
(3)
Ni chaiff y person cofrestredig wneud cais am adolygiad—
(a)
cyn i’r cyfnod o 2 flynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y gwnaed y gorchymyn ddod i ben, neu
(b)
o fewn y cyfnod o 2 flynedd sy’n dechrau â dyddiad cais blaenorol am adolygiad.
(4)
Mae’r is-adrannau a ganlyn yn pennu’r gwarediadau posibl y caniateir eu gwneud gan banel addasrwydd i ymarfer sydd wedi cwblhau adolygiad o dan is-adran (2).
(5)
Os yw’r person cofrestredig wedi gwneud cais o dan adran 92 i’r cofnod sy’n ymwneud â’r person gael ei ddileu o’r gofrestr drwy gytundeb, caiff y panel wneud gorchymyn i’r cofnod hwnnw gael ei ddileu.
(6)
Os yw’r panel yn dyfarnu nad oes amhariad bellach ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer—
(a)
rhaid i’r panel ddirymu’r gorchymyn atal dros dro amhenodol, a
(b)
caiff y panel wneud y naill neu’r llall neu’r ddau o’r canlynol—
(i)
rhoi cyngor i’r person ar unrhyw fater sy’n gysylltiedig â’r achos;
(ii)
rhoi rhybudd i’r person mewn cysylltiad ag ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol.
(7)
Caiff y panel gytuno ar ymgymeriadau â’r person cofrestredig—
(a)
os yw’r person yn cyfaddef bod amhariad ar ei addasrwydd i ymarfer, neu
(b)
os yw’r panel yn dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person i ymarfer.
(8)
Os yw’r panel yn dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer (ac na chytunwyd ar ymgymeriadau), caiff y panel waredu’r achos fel y’i disgrifir yn is-adran (9) neu (10).
(9)
Caiff y panel gadarnhau’r gorchymyn atal dros dro amhenodol.
(10)
Caiff y panel ddirymu’r gorchymyn atal dros dro amhenodol a phenderfynu—
(a)
peidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn cysylltiad â’r person cofrestredig,
(b)
rhoi rhybudd i’r person mewn cysylltiad ag ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol, neu
(c)
gwneud gorchymyn cofrestru amodol.