RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER

PENNOD 5ACHOSION ADOLYGU

154Adolygu gorchmynion atal dros dro: gwarediadau gan banel addasrwydd i ymarfer

(1)

Mae’r adran hon yn pennu’r gwarediadau posibl y caniateir eu gwneud gan banel addasrwydd i ymarfer sydd wedi cwblhau adolygiad o dan adran 151(6) neu (7) o addasrwydd i ymarfer berson cofrestredig sy’n ddarostyngedig i orchymyn atal dros dro.

(2)

Os yw’r person cofrestredig wedi gwneud cais o dan adran 92 i‘r cofnod sy’n ymwneud â’r person gael ei ddileu o’r gofrestr drwy gytundeb, caiff y panel wneud gorchymyn i’r cofnod hwnnw gael ei ddileu.

(3)

Os yw’r panel yn dyfarnu nad oes amhariad bellach ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer—

(a)

rhaid i’r panel ddirymu’r gorchymyn atal dros dro, a

(b)

caiff y panel wneud y naill neu’r llall neu’r ddau o’r canlynol—

(i)

rhoi cyngor i’r person ar unrhyw fater sy’n gysylltiedig â’r achos;

(ii)

rhoi rhybudd i’r person mewn cysylltiad ag ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol.

(4)

Caiff y panel gytuno ar ymgymeriadau â’r person cofrestredig—

(a)

os yw’r person yn cyfaddef bod amhariad ar ei addasrwydd i ymarfer, neu

(b)

os yw’r panel yn dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person i ymarfer.

(5)

Os yw’r panel yn dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer (ac na chytunwyd ar ymgymeriadau), caiff y panel waredu’r achos fel y’i disgrifir yn is-adrannau (6), (7), (8) neu (10).

(6)

Caiff y panel gadarnhau’r gorchymyn atal dros dro heb unrhyw amrywiadau.

(7)

Caiff y panel—

(a)

estyn y cyfnod y mae’r gorchymyn atal dros dro i gael effaith ar ei gyfer am gyfnod nad yw’n hwy na 12 mis, neu

(b)

lleihau’r cyfnod y mae’r gorchymyn atal dros dro i gael effaith ar ei gyfer.

(8)

Caiff y panel ddirymu’r gorchymyn atal dros dro a phenderfynu—

(a)

peidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn cysylltiad â’r person cofrestredig,

(b)

rhoi rhybudd i’r person mewn cysylltiad ag ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol,

(c)

gwneud gorchymyn cofrestru amodol, neu

(d)

gwneud gorchymyn dileu.

(9)

Ni chaiff y panel wneud gorchymyn dileu mewn achos pan fo’r panel wedi dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer ar sail iechyd corfforol neu iechyd meddwl andwyol, ac nid ar unrhyw sail arall yn adran 117.

(10)

Os yw’r amodau yn is-adran (11) wedi eu bodloni, caiff y panel wneud gorchymyn atal dros dro amhenodol, sef gorchymyn sy’n atal dros dro gofrestriad y person cofrestredig yn y gofrestr am gyfnod amhenodol.

(11)

Yr amodau yw—

(a)

bod y panel wedi dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer ar sail iechyd corfforol neu iechyd meddwl andwyol, ac nid ar unrhyw sail arall a bennir yn adran 117,

(b)

bod y person, ar ddyddiad penderfyniad y panel, wedi ei atal dros dro am o leiaf 2 flynedd, ac

(c)

bod y gorchymyn atal dros dro y mae’r person yn ddarostyngedig iddo i fod i ddod i ben o fewn 2 fis i ddyddiad penderfyniad y panel.