151Achosion adolyguLL+C
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo ymgymeriadau y cytunir arnynt rhwng panel addasrwydd i ymarfer a pherson cofrestredig o dan adran 136(1), 152(5) neu (6), 153(4), 154(4) neu 155(7) yn cael effaith.
(2)Rhaid i banel addasrwydd i ymarfer gynnal adolygiad o addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer yn unol ag unrhyw ofynion o ran adolygiad a gynhwysir yn yr ymgymeriadau hynny.
(3)Mae is-adran (4) yn gymwys pan fo gorchymyn cofrestru amodol a wneir (neu a gadarnheir neu a amrywir) o dan adran 138(7), 152(8)(c), 153(6) neu (7), 154(8)(c) neu 155(10)(c) yn cael effaith mewn perthynas â pherson cofrestredig.
(4)Rhaid i banel addasrwydd i ymarfer gynnal adolygiad o addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer yn unol ag unrhyw ofynion o ran adolygiad a gynhwysir yn y gorchymyn cofrestru amodol.
(5)Mae is-adran (6) yn gymwys pan fo gorchymyn atal dros dro a wneir (neu a gadarnheir neu a amrywir) o dan adran 138(8), 152(8)(d), 153(9)(c) neu 154(6) neu (7) yn cael effaith mewn perthynas â pherson cofrestredig.
(6)Rhaid i banel addasrwydd i ymarfer gynnal adolygiad o addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer yn unol ag unrhyw ofynion o ran adolygiad a gynhwysir yn y gorchymyn atal dros dro.
(7)Rhaid i banel addasrwydd i ymarfer hefyd gynnal adolygiad o addasrwydd person cofrestredig i ymarfer mewn achos y mae GCC yn ei atgyfeirio iddo o dan adran 133.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 151 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 151 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)