RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER

PENNOD 5ACHOSION ADOLYGU

151Achosion adolygu

(1)

Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo ymgymeriadau y cytunir arnynt rhwng panel addasrwydd i ymarfer a pherson cofrestredig o dan adran 136(1), 152(5) neu (6), 153(4), 154(4) neu 155(7) yn cael effaith.

(2)

Rhaid i banel addasrwydd i ymarfer gynnal adolygiad o addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer yn unol ag unrhyw ofynion o ran adolygiad a gynhwysir yn yr ymgymeriadau hynny.

(3)

Mae is-adran (4) yn gymwys pan fo gorchymyn cofrestru amodol a wneir (neu a gadarnheir neu a amrywir) o dan adran 138(7), 152(8)(c), 153(6) neu (7), 154(8)(c) neu 155(10)(c) yn cael effaith mewn perthynas â pherson cofrestredig.

(4)

Rhaid i banel addasrwydd i ymarfer gynnal adolygiad o addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer yn unol ag unrhyw ofynion o ran adolygiad a gynhwysir yn y gorchymyn cofrestru amodol.

(5)

Mae is-adran (6) yn gymwys pan fo gorchymyn atal dros dro a wneir (neu a gadarnheir neu a amrywir) o dan adran 138(8), 152(8)(d), 153(9)(c) neu 154(6) neu (7) yn cael effaith mewn perthynas â pherson cofrestredig.

(6)

Rhaid i banel addasrwydd i ymarfer gynnal adolygiad o addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer yn unol ag unrhyw ofynion o ran adolygiad a gynhwysir yn y gorchymyn atal dros dro.

(7)

Rhaid i banel addasrwydd i ymarfer hefyd gynnal adolygiad o addasrwydd person cofrestredig i ymarfer mewn achos y mae GCC yn ei atgyfeirio iddo o dan adran 133.