xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6LL+CGWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER

PENNOD 5LL+CACHOSION ADOLYGU

150Achosion adolygu: dehongli a chyffredinolLL+C

(1)Yn y Bennod hon, mae cyfeiriad at berson cofrestredig yn gyfeiriad at y person cofrestredig y mae ei addasrwydd i ymarfer yn ddarostyngedig i adolygiad o dan adran 151.

(2)Ni chaiff panel addasrwydd i ymarfer wneud gorchymyn ar gyfer dileu cofnod person cofrestredig o’r gofrestr drwy gytundeb o dan adran 152(2), 153(2), 154(2) neu 155(5) ond os yw’r person wedi cytuno ar ddatganiad o ffeithiau sy’n ymwneud â’r mater.

(3)Os gwneir gorchymyn o’r fath o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hynny, caiff GCC

(a)cyhoeddi’r datganiad o ffeithiau y cytunir arnynt yn y modd y mae’n meddwl ei fod yn briodol, a

(b)datgelu’r datganiad i unrhyw berson os yw GCC yn meddwl ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.

(4)Pan fo panel addasrwydd i ymarfer yn cytuno ar ymgymeriadau neu’n eu cadarnhau, neu’n cytuno ar unrhyw amrywiad o ymgymeriadau, o dan adran 152(5) neu (6), 153(4), 154(4) neu 155(7), rhaid i GCC ddatgelu manylion yr ymgymeriadau i unrhyw berson—

(a)y cyflogir y person cofrestredig fel gweithiwr gofal cymdeithasol ganddo, hyd y gŵyr GCC,

(b)sydd, hyd y gŵyr GCC, â threfniant â’r person cofrestredig i’r person cofrestredig ddarparu gwasanaethau i drydydd parti yn rhinwedd ei swydd fel gweithiwr gofal cymdeithasol,

(c)y mae’r person cofrestredig, hyd y gŵyr GCC, yn ceisio cyflogaeth o’r fath neu drefniant o’r fath ganddo, a

(d)a ragnodir.

(5)Ond ni chaiff GCC ddatgelu i unrhyw berson fanylion unrhyw ymgymeriad nad yw ond yn ymwneud ag iechyd corfforol neu iechyd meddwl y person cofrestredig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 150 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 150 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)