xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/762), rhlau., 57(3)
C2Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/165), rhlau. 1(2), 58(3)
C3Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/163), rhlau. 1(2), 67(3)
C4Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/169), rhlau. 1(2), 71
C5Rhn. 1 cymhwyswyd (gydag addasiadau) (31.3.2024) gan Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024 (O.S. 2024/388), rhlau. 1(2), 79(3)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru ganslo cofrestriad darparwr gwasanaeth ar unrhyw un neu ragor o’r seiliau a ganlyn—
(a)nid yw’r darparwr gwasanaeth bellach yn darparu unrhyw wasanaethau rheoleiddiedig;
(b)nid yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bellach fod y darparwr gwasanaeth yn berson addas a phriodol i fod yn ddarparwr gwasanaeth (gweler adran 9);
[F1(ba)mae’r darparwr gwasanaeth wedi ei gollfarnu o drosedd berthnasol, neu wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd berthnasol, mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig y mae’n ei ddarparu;]
(c)nid oes unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad â phob man y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef (ac mae’r terfyn amser ar gyfer gwneud cais i amrywio’r cofrestriad a ragnodir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 11(2) wedi dod i ben);
(d)[F2mae unigolyn cyfrifol ac eithrio’r darparwr gwasanaeth (gweler adran 21(2)(a))] sydd wedi ei ddynodi mewn cysylltiad â man y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef wedi ei gollfarnu o drosedd berthnasol, neu wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd berthnasol, mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig a ddarperir gan y darparwr gwasanaeth;
(e)mae unrhyw berson arall wedi ei gollfarnu o drosedd berthnasol, neu wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd berthnasol, mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig a ddarperir gan y darparwr gwasanaeth;
(f)nid yw gwasanaeth rheoleiddiedig a ddarperir gan y darparwr gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’r gofynion a grybwyllir yn adran 7(1)(d) i’r graddau y bônt yn gymwys i’r gwasanaeth hwnnw.
(2)At ddibenion [F3is-adran (1)(ba), (d)] ac (e), mae’r canlynol yn droseddau perthnasol—
(a)trosedd o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir odani;
(b)trosedd o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14) neu reoliadau a wneir odani;
(c)unrhyw drosedd sydd, ym marn Gweinidogion Cymru, yn ei gwneud yn briodol i’r cofrestriad gael ei ganslo (gan gynnwys tramgwydd a gyflawnwyd y tu allan i Gymru a Lloegr a fyddai’n drosedd pe bai wedi ei gyflawni yng Nghymru a Lloegr).
(3)Ni chaniateir i gofrestriad gael ei ganslo o dan yr adran hon [F4—
(a)yn achos canslo ar y seiliau a nodir yn is-adran (1)(a), (b) neu (ba), oni bai bod gofynion adrannau 18 a 19 wedi eu bodloni;
(b)yn achos canslo ar y seiliau a nodir yn is-adran (1)(c), (d), (e) neu (f), oni bai bod gofynion adrannau 16 a 17 wedi eu bodloni.]
[F5(4)Ond nid oes dim byd yn is-adran (3) sy’n effeithio ar bŵer Gweinidogion Cymru i ganslo cofrestriad ar frys o dan adran 23.]
Diwygiadau Testunol
F1A. 15(1)(ba) wedi ei fewnosod (25.3.2025) gan Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (asc 1), aau. 16(3)(a)(i), 29(1)(a)(i)
F2Geiriau yn a. 15(1)(d) wedi eu hamnewid (25.3.2025) gan Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (asc 1), aau. 16(3)(a)(ii), 29(1)(a)(i)
F3Geiriau yn a. 15(2) wedi eu hamnewid (25.3.2025) gan Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (asc 1), aau. 16(3)(b), 29(1)(a)(i)
F4Geiriau yn a. 15(3) wedi eu hamnewid (25.3.2025) gan Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (asc 1), aau. 16(3)(c), 29(1)(a)(i)
F5A. 15(4) wedi ei fewnosod (25.3.2025) gan Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (asc 1), aau. 16(3)(d), 29(1)(a)(i)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 15 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(d)