RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 2COFRESTRU ETC. DARPARWYR GWASANAETHAU
Ymgeisio, amrywio a chanslo cofrestriad
15Canslo heb gais
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru ganslo cofrestriad darparwr gwasanaeth ar unrhyw un neu ragor o’r seiliau a ganlyn—
(a)
nid yw’r darparwr gwasanaeth bellach yn darparu unrhyw wasanaethau rheoleiddiedig;
(b)
nid yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bellach fod y darparwr gwasanaeth yn berson addas a phriodol i fod yn ddarparwr gwasanaeth (gweler adran 9);
F1(ba)
mae’r darparwr gwasanaeth wedi ei gollfarnu o drosedd berthnasol, neu wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd berthnasol, mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig y mae’n ei ddarparu;
(c)
nid oes unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad â phob man y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef (ac mae’r terfyn amser ar gyfer gwneud cais i amrywio’r cofrestriad a ragnodir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 11(2) wedi dod i ben);
(d)
F2mae unigolyn cyfrifol ac eithrio’r darparwr gwasanaeth (gweler adran 21(2)(a)) sydd wedi ei ddynodi mewn cysylltiad â man y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef wedi ei gollfarnu o drosedd berthnasol, neu wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd berthnasol, mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig a ddarperir gan y darparwr gwasanaeth;
(e)
mae unrhyw berson arall wedi ei gollfarnu o drosedd berthnasol, neu wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd berthnasol, mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig a ddarperir gan y darparwr gwasanaeth;
(f)
nid yw gwasanaeth rheoleiddiedig a ddarperir gan y darparwr gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’r gofynion a grybwyllir yn adran 7(1)(d) i’r graddau y bônt yn gymwys i’r gwasanaeth hwnnw.
(2)
At ddibenion F3is-adran (1)(ba), (d) ac (e), mae’r canlynol yn droseddau perthnasol—
(a)
trosedd o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir odani;
(b)
trosedd o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14) neu reoliadau a wneir odani;
(c)
unrhyw drosedd sydd, ym marn Gweinidogion Cymru, yn ei gwneud yn briodol i’r cofrestriad gael ei ganslo (gan gynnwys tramgwydd a gyflawnwyd y tu allan i Gymru a Lloegr a fyddai’n drosedd pe bai wedi ei gyflawni yng Nghymru a Lloegr).
(3)
Ni chaniateir i gofrestriad gael ei ganslo o dan yr adran hon F4—
(a)
yn achos canslo ar y seiliau a nodir yn is-adran (1)(a), (b) neu (ba), oni bai bod gofynion adrannau 18 a 19 wedi eu bodloni;
(b)
yn achos canslo ar y seiliau a nodir yn is-adran (1)(c), (d), (e) neu (f), oni bai bod gofynion adrannau 16 a 17 wedi eu bodloni.
F5(4)
Ond nid oes dim byd yn is-adran (3) sy’n effeithio ar bŵer Gweinidogion Cymru i ganslo cofrestriad ar frys o dan adran 23.