xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan—
(a)bo panel addasrwydd i ymarfer yn gwaredu mater mewn cysylltiad â pherson cofrestredig mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a nodir yn adrannau 135 i 138, a
(b)ar yr adeg honno, fo’r person cofrestredig yn ddarostyngedig i orchymyn interim (gweler adran 144).
(2)Rhaid i’r panel addasrwydd i ymarfer, ar yr un pryd ag y mae’n gwaredu’r mater, ddirymu’r gorchymyn interim.
(3)Mae’r dirymiad o’r gorchymyn interim yn cymryd effaith ar y dyddiad y mae’r panel yn gwaredu’r mater fel y’i disgrifir yn is-adran (1)(a).
(4)Yn yr adran hon, mae cyfeiriad at orchymyn interim yn cynnwys cyfeiriad at y canlynol (gweler adrannau 147 a 148)—
(a)gorchymyn interim fel y’i hestynnir neu fel y’i hestynnir ymhellach gan y tribiwnlys;
(b)gorchymyn interim fel y’i hamrywir yn sgil adolygiad;
(c)gorchymyn cofrestru amodol interim amnewidiol neu orchymyn atal dros dro interim amnewidiol a wneir yn sgil adolygiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 149 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 149 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)