RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER
PENNOD 4GORCHMYNION INTERIM AC ADOLYGU GORCHMYNION INTERIM
149Dirymu gorchmynion interim
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan—
(a)
bo panel addasrwydd i ymarfer yn gwaredu mater mewn cysylltiad â pherson cofrestredig mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a nodir yn adrannau 135 i 138, a
(b)
ar yr adeg honno, fo’r person cofrestredig yn ddarostyngedig i orchymyn interim (gweler adran 144).
(2)
Rhaid i’r panel addasrwydd i ymarfer, ar yr un pryd ag y mae’n gwaredu’r mater, ddirymu’r gorchymyn interim.
(3)
Mae’r dirymiad o’r gorchymyn interim yn cymryd effaith ar y dyddiad y mae’r panel yn gwaredu’r mater fel y’i disgrifir yn is-adran (1)(a).
(4)
Yn yr adran hon, mae cyfeiriad at orchymyn interim yn cynnwys cyfeiriad at y canlynol (gweler adrannau 147 a 148)—
(a)
gorchymyn interim fel y’i hestynnir neu fel y’i hestynnir ymhellach gan y tribiwnlys;
(b)
gorchymyn interim fel y’i hamrywir yn sgil adolygiad;
(c)
gorchymyn cofrestru amodol interim amnewidiol neu orchymyn atal dros dro interim amnewidiol a wneir yn sgil adolygiad.