RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER

PENNOD 4GORCHMYNION INTERIM AC ADOLYGU GORCHMYNION INTERIM

147Adolygiadau o orchymyn interim: penderfyniadau posibl

(1)

Ar ôl i banel gwblhau adolygiad o orchymyn interim, caiff y panel—

(a)

dirymu’r gorchymyn interim;

(b)

yn achos gorchymyn cofrestru amodol interim, dirymu neu amrywio unrhyw amod;

(c)

rhoi gorchymyn cofrestru amodol interim yn lle gorchymyn atal dros dro interim;

(d)

rhoi gorchymyn atal dros dro interim yn lle gorchymyn cofrestru amodol interim;

(e)

peidio â gwneud unrhyw newidiadau i’r gorchymyn interimF1;

(f)

yn achos gorchymyn interim nad yw wedi cael ei estyn gan y tribiwnlys o dan adran 148, estyn y gorchymyn interim.

(2)

Ni chaiff panel wneud penderfyniad a bennir yn is-adran (1)(b), (c), (d) neu (e) ond os yw’r panel wedi ei fodloni bod y penderfyniad—

(a)

yn angenrheidiol ar gyfer amddiffyn y cyhoedd,

(b)

fel arall er budd y cyhoedd, neu

(c)

er budd y person cofrestredig.

F2(2A)

Ni chaiff panel wneud penderfyniad a bennir yn is-adran (1)(f) ond—

(a)

os yw’r panel wedi ei fodloni bod y penderfyniad yn bodloni un neu ragor o’r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (c) o is-adran (2), a

(b)

os nad yw’r estyniad yn arwain at y gorchymyn interim yn cael effaith am gyfnod o fwy na 18 mis.

(3)

Mae gorchymyn amnewidiol a wneir o dan is-adran (1)(c) neu (d) yn cael effaith am weddill y cyfnod yr oedd y gorchymyn y mae’n cymryd ei le yn cael effaith ar ei gyfer (oni bai ei fod yn cael ei estyn F3gan banel o dan is-adran (1)(f) neu gan y tribiwnlys o dan adran 148).

(4)

Yn yr adran hon—

(a)

mae cyfeiriad at orchymyn interim yn cynnwys cyfeiriad at—

(i)

gorchymyn interim fel y’i hestynnir neu fel y’i hestynnir ymhellach gan y tribiwnlys;

F4(ia)

gorchymyn interim fel y’i hestynnir neu fel y’i hestynnir ymhellach gan banel;

(ii)

gorchymyn interim fel y’i hamrywir o dan is-adran (1)(b);

(iii)

gorchymyn cofrestru amodol interim amnewidiol neu orchymyn atal dros dro interim amnewidiol a wneir o dan is-adran (1)(c) neu (d);

(b)

mae cyfeiriad at orchymyn cofrestru amodol interim neu orchymyn atal dros dro interim yn cynnwys cyfeiriad at—

(i)

gorchymyn interim o’r math hwnnw fel y’i hestynnir neu fel y’i hestynnir ymhellach gan y tribiwnlys;

(ii)

yn achos gorchymyn cofrestru amodol interim, gorchymyn interim fel y’i hamrywir o dan is-adran (1)(b);

(iii)

gorchymyn amnewidiol o’r math hwnnw a wneir o dan is-adran (1)(c) neu (d).

F5(5)

Ond nid yw is-adran (4)(a)(i) a (b)(i) yn gymwys mewn perthynas â’r cyfeiriad at orchymyn interim yn is-adran (1)(f).